dcsimg

Llychlys dail pigfain ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys dail pigfain (enw gwyddonol: Harpalejeunea molleri; enw Saesneg: pointed pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod ar arfordir gorllewinol gwledydd Prydain, gan gynnwys Cymru. Mae H. molleri yn ffurfio egin iasol cain, gwyrdd golau, hyd at 1.2 cm o hyd a 0.3–0.75 mm o led). Mae ganddo ddail pigfain gydag ongl yn yr ymyl gefn sy'n gwneud y pwynt blaen i ffwrdd o'r coesyn.[1]

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 20 Awst 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Llychlys dail pigfain: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys dail pigfain (enw gwyddonol: Harpalejeunea molleri; enw Saesneg: pointed pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod ar arfordir gorllewinol gwledydd Prydain, gan gynnwys Cymru. Mae H. molleri yn ffurfio egin iasol cain, gwyrdd golau, hyd at 1.2 cm o hyd a 0.3–0.75 mm o led). Mae ganddo ddail pigfain gydag ongl yn yr ymyl gefn sy'n gwneud y pwynt blaen i ffwrdd o'r coesyn.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY