Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys cyrliog (enw gwyddonol: Anastrophyllum saxicola; enw Saesneg: curled notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ond fe'i ceir yn ucheldir yr Alban. mae mwy ohono nag unrhyw rywogaeth arall yn y grwp Anastrophyllum .
Mae ei goesynnau rhwng 0.4 a 1.2 mm o led, ac mae'r dail melynfrown, tywyll yn llai na 1 mm o led.[1]
Fel arfer, fe'i ceir ar lethrau creigiog neu o rug, mewn rhostiroedd, cymoedd llaith neu dir mawnog.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.