Math o blanhigyn, di-flodau, brÿoffyt ac un o lysiau'r afu yw Cornllys mannog (enw gwyddonol: Anthoceros punctatus; enw Saesneg: dotted hornwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Anthocerotales, o fewn y dosbarth Anthocerotopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Nghymru (e.e. Parc Fforest Afan) ac yn Iwerddon.[1]
Fel arfer, mae'r thali di-draidd, crwn, gwyrdd tywyll yn 2-3 cm ar draws, yn edrych fel ffrils, ac fel arfer mae ganddynt gefnennau a chribau amrywiol ar yr wyneb uchaf. Dim ond trwy fesur dimensiynau'r organau gwrywaidd y gellir gwahaniaethu rhwng Cornllys mannog a Chornllys y maes (Anthoceros agrestis). Mae sborau aeddfed ar ben y cyrn yn ddu yn y ddwy rywogaeth.
Mae'r Cornllys mannog a Chornllys y maes i'w cael mewn caeau sofl llaith, tir braenar, ymylon ffosydd, traciau coetir a chorneli caeau. Yn gyffredinol, mae Cornllys mannog yn amlach yng ngorllewin Iwerddon a Chornllys y maes yn y dwyrain.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, brÿoffyt ac un o lysiau'r afu yw Cornllys mannog (enw gwyddonol: Anthoceros punctatus; enw Saesneg: dotted hornwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Anthocerotales, o fewn y dosbarth Anthocerotopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Nghymru (e.e. Parc Fforest Afan) ac yn Iwerddon.