dcsimg

Llydandroed llwyd ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Llydandroed llwyd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar llydandroed llwydion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Phalaropus fulicarius; yr enw Saesneg arno yw Grey phalarope. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. fulicarius, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[3]

Teulu

Mae'r llydandroed llwyd yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Cyffylog Scolopax rusticola Cyffylog Amami Scolopax mira
Amami Woodcock Stuffed specimen.jpg
Cyffylog coch Scolopax saturata
The geographical distribution of the family Charadriidae, or the plovers, sandpipers, snipes, and their allies (1888) (14755230102).jpg
Gïach America Gallinago delicata
Common snipe fencepost.jpg
Gïach Cyffredin Gallinago gallinago
Gallinago gallinago a1.JPG
Gïach Mawr Gallinago media
Gallinago media kilnsea.jpg
Gïach Swinhoe Gallinago megala
Gallinago megala.jpg
Llydandroed gyddfgoch Phalaropus lobatus
Red-necked Phalarope.jpg
Llydandroed llwyd Phalaropus fulicarius
Phalaropus fulicarius 10.jpg
Llydandroed Wilson Phalaropus tricolor
Phalaropus tricolor - breeding female.jpg
Pibydd brych Actitis macularius
Actitis-macularia-005.jpg
Pibydd y Dorlan Actitis hypoleucos
Actitis hypoleucos - Laem Pak Bia.jpg
Rhostog gynffonddu Limosa limosa
Black-tailed Godwit cropped.jpg
Rhostog gynffonfraith Limosa lapponica
Bar-tailed Godwit.jpg
Rhostog Hudson Limosa haemastica
Hudsonian Godwit - Churchill - Canada 01 (15657156459).jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Y Llydandroed Llwyd yng Nghymru

Dyma hen ysgrif papur newydd air am air o 1899 am y llydandroed... a hynny yn anisgwyl efallai, yn y Gymraeg:

Y PHALAROPE.
Drwg genyf ddarfod i mi yn fy ysgrif frysiog ar nodweddion y Phalarope esgeuluso rhoddi yr enw Cymraeg wrth yr hwn yr adnabyddir yr aderyn uchod, sef yw hyny, Pibydd Llwyd Llydandroed. Da genyf ddeall trwy lythyr Mr RLM Pritchard yn y Cymro cyn y diweddaf fod yr aderyn prydferth uchod yn fwy cyffredin yn Mhrydain nag y bu. Diamhau genyf fod y fath honiad yn sylfaenedig ar awdurdod gadarn, neu ni fuasai ef yn gwrthddweyd geiriau ei gyfaill. Yr oll a ddywedaf mewn amddiffyniad yw nad wyf ond yn unig rhyw bwt bychan o ednogaethwr ymarferol, yn hoffi cwmni adar er yn blentyn, ac yn fy alltudiaeth yn derbyn llawer iawn o fwynhad wrth sylwi ar eu dull dyddorol o fyw ond pan ddigwydd i un dyeithr ymddangos yn eu plith, rhaid fydd i mi droi i ymgynghori a'r awdurdodau, ac felly y bu y tro hwn yn achos yr aderyn a elwir gan y naturiaethwr bydenwog, y Parch F. 0. Morris, B.A., yn Bibydd, &c.
Rhaid i mi addef nad oeddwn yn hoffi ei enw Cymraeg, Mr Gol., gan nad beth yw ei ystyr wreiddiol. Mewn perthynas i'w gyffredinolrwydd yn y parthau hyn, gellir dweyd, ar awdurdod Mr Henry Ecroyd Suiith, ddarfod i ddau ohonynt gael eu saethu yn Crosby yn 1863, ac un yn fwy diweddar yn ardal Bidston, ond y cyntaf a welais erioed yn fyw ydyw yr un sydd yn cael ei arddangos y dyddiau hyn yn ffenestr Mr W. Cox, 36, Manchester Street, Lerpwl.[4]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
  4. YNYSWR Y Cymro (Lerpwl a'r Wyddgrug),16 Chwefror 1899
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Llydandroed llwyd: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Llydandroed llwyd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar llydandroed llwydion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Phalaropus fulicarius; yr enw Saesneg arno yw Grey phalarope. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. fulicarius, sef enw'r rhywogaeth.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY