Hwyaden sy'n byw o gwmpas yr arfordir yw Môr-hwyaden yr Ewyn. Mae'n nythu yng Nghanada ac Alaska. Mae'n hwyaden fawr, 44–48 cm o hyd. Dim ond y ceiliog sy'n ddu, tra mae'r iâr yn frown.
Yn y gaeaf, mae rhai yn symud i'r Llynnoedd Mawr. Ceir ambell un ger arfordir Cymru yn y gaeaf, fel rheol gyda heidiau o'r Fôr-hwyaden Ddu, ond mae'n aderyn prin yma. Mae'r gwyn ar y pen yn ei gwahaniaethu oddi wrth y Fôr-hwyaden Ddu.