Aderyn mwyaf y byd yw'r Estrys (Struthio camelus), sy'n perthyn i urdd o adar a elwir yn Struthioniformes. Mae'r oedolyn yn 2.5 medr o daldra ac mae'n pwyso 115 cilogram.[1] Mae ganddo wddf a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys troed. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn.[1] Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.[2]
Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail.[1] Fe'i ceir mewn safana a lled-anialwch yn Affrica.[1] Ystyrir yr is-rywogaeth S. c. molybdophanes (Estrys Somalia) o Gorn Affrica yn rhywogaeth wahanol gan rai dacsonomegwyr.[3]
Aderyn mwyaf y byd yw'r Estrys (Struthio camelus), sy'n perthyn i urdd o adar a elwir yn Struthioniformes. Mae'r oedolyn yn 2.5 medr o daldra ac mae'n pwyso 115 cilogram. Mae ganddo wddf a choesau hir ac mae gan ei draed ddau fys troed. Mae'n methu hedfan ond mae'n gallu rhedeg yn gyflym iawn. Mae'r gwryw'n ddu gydag esgyll gwyn a chynffon wen; mae plu'r fenyw'n llwydfrown.
Mae'r estrys yn bwydo ar weiriau, hadau, ffrwythau a dail. Fe'i ceir mewn safana a lled-anialwch yn Affrica. Ystyrir yr is-rywogaeth S. c. molybdophanes (Estrys Somalia) o Gorn Affrica yn rhywogaeth wahanol gan rai dacsonomegwyr.