dcsimg
Image of Common Whitethroat
Unresolved name

Common Whitethroat

Sylvia communis

Llwydfron ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Aelod o deulu'r Sylviidae yw'r Llwydfron (Sylvia communis). Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop a gorllewin Asia.

Mae'r Llwydfron yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica, Arabia a Phacistan. Adeiledir y nyth mewn llwyn, ac mae'n dodwy 3-7 wy. Mae gan y ceiliog ben llwyd a gwddw gwyn amlwg, gyda brown ar yr adenydd. Nid oes gan yr iar ben llwyd, ac mae'r gwyn ar y gwddw yn llai amlwg.

Mae'r Llwydfron yn aderyn pur gyffredin yng Nghymru, fel rheol mewn tir agored gyda llwyni.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY