Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys boliog (enw gwyddonol: Lophozia ventricosa; enw Saesneg: tumid notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
L. ventricosa fel arfer yw'r aelod cyntaf o'i genws a welir gan ddechreuwyr ac mae'n blanhigyn cyffredin iawn ar ucheldir gwledydd Prydain. Yn aml mae'n wyrdd llachar ac yn dryleu (opaque), ac yn dra gwahanol i lysiau'r afu eraill, gyda chlystyrau amlwg o gemmae gwyrdd ar flaenau ei ddail deulabed.[1]
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys boliog (enw gwyddonol: Lophozia ventricosa; enw Saesneg: tumid notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
L. ventricosa fel arfer yw'r aelod cyntaf o'i genws a welir gan ddechreuwyr ac mae'n blanhigyn cyffredin iawn ar ucheldir gwledydd Prydain. Yn aml mae'n wyrdd llachar ac yn dryleu (opaque), ac yn dra gwahanol i lysiau'r afu eraill, gyda chlystyrau amlwg o gemmae gwyrdd ar flaenau ei ddail deulabed.