dcsimg

Hiclys joergensen ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys joergensen (enw gwyddonol: Anastrophyllum joergensenii; enw Saesneg: Joergensen's Notchwort 1). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Mae'r Hiclys joergensen a'r Hiclys alpaidd yn edrych yn hynod o debyg i'w gilydd. Mae gan y ddau: ddail ceugrwm, sy'n troi ar i fyny ychydig, mae nhw'n sgleiniog, yn gochddu tywyll ac yn tyfu mewn sypiau rhydd. Yn wir, hyd at 2005 credwyd mai un rhywogaeth oeddent, ond erbyn hyn gwyddys mai A. alpinum yw'r rhywogaeth fwy cyffredin, mwy (gydag egin rhwng 1 a 2 mm o led), a bod A. joergensenii yn blanhigyn ychydig bach yn llai (gydag egin hyd at 1 mm o led). Er fod y lled yn wahanol mae'r goesynnau tua'r un faint: tua 5 i 10 cm, felly mae Hiclys joergensenii yn amlwg yn fwy main.[1]

Cynefin

Ei gynefin yw tir heb ei ddraenio h.y. gwlyptir fel rhostir neu fawnogydd, ond weithiau, fe'i ceir ar lechweddau creigiog. Nid yw mor brin a'r Hiclys alpaidd, yn enwedig yn y Cairngorms a gorllewin yr Alban.

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 2 Mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Hiclys joergensen: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys joergensen (enw gwyddonol: Anastrophyllum joergensenii; enw Saesneg: Joergensen's Notchwort 1). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Mae'r Hiclys joergensen a'r Hiclys alpaidd yn edrych yn hynod o debyg i'w gilydd. Mae gan y ddau: ddail ceugrwm, sy'n troi ar i fyny ychydig, mae nhw'n sgleiniog, yn gochddu tywyll ac yn tyfu mewn sypiau rhydd. Yn wir, hyd at 2005 credwyd mai un rhywogaeth oeddent, ond erbyn hyn gwyddys mai A. alpinum yw'r rhywogaeth fwy cyffredin, mwy (gydag egin rhwng 1 a 2 mm o led), a bod A. joergensenii yn blanhigyn ychydig bach yn llai (gydag egin hyd at 1 mm o led). Er fod y lled yn wahanol mae'r goesynnau tua'r un faint: tua 5 i 10 cm, felly mae Hiclys joergensenii yn amlwg yn fwy main.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Anastrophyllum joergensenii ( Vietnamese )

provided by wikipedia VI

Anastrophyllum joergensenii là một loài rêu trong họ Anastrophyllaceae. Loài này được Schiffner mô tả khoa học đầu tiên năm 1910.[1]

Chú thích

  1. ^ The Plant List (2010). Anastrophyllum joergensenii. Truy cập ngày 31 tháng 5 năm 2014.

Liên kết ngoài


Hình tượng sơ khai Bài viết liên quan đến bộ rêu Jungermanniales này vẫn còn sơ khai. Bạn có thể giúp Wikipedia bằng cách mở rộng nội dung để bài được hoàn chỉnh hơn.


license
cc-by-sa-3.0
copyright
Wikipedia tác giả và biên tập viên
original
visit source
partner site
wikipedia VI

Anastrophyllum joergensenii: Brief Summary ( Vietnamese )

provided by wikipedia VI

Anastrophyllum joergensenii là một loài rêu trong họ Anastrophyllaceae. Loài này được Schiffner mô tả khoa học đầu tiên năm 1910.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Wikipedia tác giả và biên tập viên
original
visit source
partner site
wikipedia VI