dcsimg

Pibydd Coeswerdd ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae'r Pibydd Coeswerdd (Tringa totanus) yn un o aelodau mwyaf cyffredin teulu'r rhydyddion.

Mae'r Pibydd Coeswerdd yn nythu ar draws Ewrop a gogledd Asia, yn cynnwys gogledd yr Alban. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu o gwmpas Affrica, de Asia ac Awstralasia, er fod nifer llai yn gaeafu ymhellach i'r gogledd.

Gellir adnabod y Pibydd Coeswerdd oddi wrth y coesau gwyrdd-lwyd a'r pig hir, llwyd. Mae'n nythu ar lawr, ac yn tua pedwar wy.

Yng Nghymru, ceir niferoedd sylweddol pan maent yn mudo tua'r gogledd yn y gwanwyn a thua'r de yn yr hydref, ac mae niferoedd llai yn treulio'r gaeaf yma. Fe'i ceir o gwmpas aberoedd yn bennaf.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY