dcsimg

Telor Penddu ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Sylvia atricapilla

Mae'r Telor Penddu (Sylvia atricapilla) yn aelod o deulu'r Sylviidae ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd, canolbarth a rhannau o dde Ewrop.

Mae'r Telor Penddu yn aderyn mudol fel rheol, gydag adar o ogledd a chanol Ewrop yn treulio'r gaeaf yn ne Ewrop a gogledd Affrica, er bod adar o dde Ewrop yn aros yn eu hunfan. Yn ddiweddar mae rhai adar o ganolbarth Ewrop wedi dechrau mudo i'r Ynysoedd Prydeinig yn y gaeaf. Er mai pryfed yw ei brif fwyd fel y gweddill o'r teloriaid, mae'n bwyta aeron hefyd, sy'n ei gwneud yn haws iddo dreulio'r gaeaf ymhellach i'r gogledd na'r rhan fwyaf o'r teloriaid.

Adeiledir y nyth mewn coedwigoedd lle mae digon o blanhigion is ar gyfer nythu, gyda'r nyth mewn llwyn fel rheol. Mae'n dodwy 3-6 wy. Gellir adnabod y Telor Penddu yn bur hawdd; mae'n weddol fawr o'i gymharu a'r rhan fwyaf o'r teloriaid eraill, a'r rhan fwyaf o'r plu yn llwyd. Mae gan y ceiliog gap du ar y pen a'r iâr gap brown.

Mae'r Telor Penddu yn aderyn cyffredin yng Nghymru yn ystod y gwanwyn a'r haf, ac mae nifer fychan ond cynyddol yn gaeafu yma. Fel rheol gellir gweld y rhain o gwmpas gerddi, yn enwedig lle mae'r adar yn cael eu bwydo.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY