dcsimg

Broga ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Amffibiad sy'n byw rhan o'i amser mewn dŵr yw'r broga (neu lyffant melyn, llyffant cyffredin), ac fe'i ceir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop. Mae'n wyrdd, brown neu felyn gyda chroen llyfn. Mae'n bwydo ar bryfed, abwyd a gwlithod. Mae'n dodwy hyd at 4,000 o wyau (a elwir yn grifft) mewn pyllau dŵr croyw, bychain.

Y man gorllewinol pellaf lle'i ceir yw Iwerddon; yn y gogledd: y gwledydd Sgandinafia, ac i'r dwyrain, fe'i gwelir ym Mynyddoedd yr Wral. Nid yw i'w gael yn Mhenrhyn Iberia, fodd bynnag, nac yn ne'r Eidal na de'r Balcanau. Mae hefyd i'w gael yn Asia - mor bell i'r dwyrain a Japan.

Mae'r llyffant melyn yn trawsffurfio drwy dair cyfnod pendant: y cynrhon (larfa) dyfrol, llencyndod ar y tir ac yna'r oedolyn (dŵr a thir). Mae ganddo gorff tew, gyda ffroenau crwn, traed gweog a choesau-ôl hir a esblygodd dros amser i nofio mewn dŵr a sboncian ar dir. Fe'i cymysgir yn aml gyda'r Llyffant dafadennog (Bufo bufo), ond mae'n hawdd gwahaniaethu rhyngddynt gan fod gan y broga goesau hirach, mae'n nhw'n sboncian ac mae'r croen yn llaith. Gellir adnabod grifft y broga'n hawdd hefyd gan ei fod yn cael ei ddodwy bob yn dipyn, mewn llwythi; mae grifft y Llyffant dafadennog, fodd bynnag, mewn rhesi hir.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY