Planhigyn blodeuol yw llygad y dydd (Lladin: Bellis perennis; Saesneg: Daisy) sy'n aelod o deulu'r Asteraceae. Ceir sawl rhywogaeth o lygad y dydd ond mae'r enw fel arfer yn cyfeirio at Bellis perennis sef y mwyaf cyffredin yng Nghymru.
Mae'r gair Saesneg daisy yn tarddu o'r geiriau "day's eye" yn union fel llygad y dydd.
Mae Bellis perennis yn frodorol o ganol a gogledd Ewrop, ond bellach wedi ymgyfatrebu mewn mewn gwledydd cynnes e.e. yr Americas.[2][3] and Australasia.
Planhigyn llysieuol ydyw gyda rhisomau byr sy'n cropian a rhosynnau o ddail bychan crwn (neu o siap llwyau) sydd rhwng 2–5 cm (3/4 - 2 fodfedd) o hyd. Yn aml, fe'i gwelir mewn lawntiau a gall fod yn anodd ei ddileu drwy beiriant torri gwair; gellir ei alw felly'n chwynyn.[4]
Mae'r blodau'n gyfansawdd, ar ffurf pseudanthiwm, ac wed'u ffurfio o nifer o flodau tua 2–3 cm (3/4 to 1-1/4) mewn diametr, a choron o betalau bychan, weithiau gyda'r pwyntiau'n binc. Maent yn tyfu at un bonyn approx. 2–10 cm (3/4 - 4 mod) o daldra.[5]
Arferid gwneud eli allan o'r blodau: tua llond dwrn go dda wedi'u malu'n gyrbibion a'u gwasgu mewn talp o fenyn. Defyddid yr eli ar y croen i wella cricmala (gwynegon) neu gymalau poenus. Mae cnoi'r dail hefyd yn beth da i wella wlser.[6]
Yn ôl rhai ysgolheigion, mae'r rhinweddau canlynol iddo: gwrthffwng, glanhau'r gwaed, lleddfu poen. Gall hefyd wella peswch, poenau yn y stumog, gwynegon (cricmala) a phroblemau'n ymwneud â beichiogrwydd.[7]
Mae llygad y dydd yn cynnwys: saponinau, tannin, olew hanfodol, fflafonau a gludiau (mucilage).[8]
Gwelais lwyth o flodau llygaid y dydd yn y Groeslon, Waunfawr, 6 Ionawr 2018. Roedd fy Mam [o Ddyffryn Ogwen] yn arfer dweud bod y Gwanwyn wedi cyrraedd os oeddech yn gallu sathru mwy na chwech Llygad y Dydd ar unwaith.[9]
Planhigyn blodeuol yw llygad y dydd (Lladin: Bellis perennis; Saesneg: Daisy) sy'n aelod o deulu'r Asteraceae. Ceir sawl rhywogaeth o lygad y dydd ond mae'r enw fel arfer yn cyfeirio at Bellis perennis sef y mwyaf cyffredin yng Nghymru.
Mae'r gair Saesneg daisy yn tarddu o'r geiriau "day's eye" yn union fel llygad y dydd.
Mae Bellis perennis yn frodorol o ganol a gogledd Ewrop, ond bellach wedi ymgyfatrebu mewn mewn gwledydd cynnes e.e. yr Americas. and Australasia.
Bellis perennisPlanhigyn llysieuol ydyw gyda rhisomau byr sy'n cropian a rhosynnau o ddail bychan crwn (neu o siap llwyau) sydd rhwng 2–5 cm (3/4 - 2 fodfedd) o hyd. Yn aml, fe'i gwelir mewn lawntiau a gall fod yn anodd ei ddileu drwy beiriant torri gwair; gellir ei alw felly'n chwynyn.
Mae'r blodau'n gyfansawdd, ar ffurf pseudanthiwm, ac wed'u ffurfio o nifer o flodau tua 2–3 cm (3/4 to 1-1/4) mewn diametr, a choron o betalau bychan, weithiau gyda'r pwyntiau'n binc. Maent yn tyfu at un bonyn approx. 2–10 cm (3/4 - 4 mod) o daldra.